Mae’r Comisiwn Etholiadol yn parhau i flaenoriaethu cynorthwyo pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr i ddeall y rheolau a sicrhau tryloywder y gyfundrefn cyllid gwleidyddol.
Rydym am ddeall yn well yr heriau y mae rhanddeiliaid yn eu hwynebu, er mwyn ein galluogi i’ch cefnogi yn fwy effeithiol.
Mae effaith y pandemig wedi bod yn bellgyrhaeddol. Yn naturiol, gall nifer o bobl fod yn ansicr o ran sut mae rheolau penodol yn gymwys at eu gweithgareddau ymgyrchu a’u rhwymedigaethau adrodd. Mae’r arolwg hwn yn gofyn am eich adborth ar ymholiadau ymgyrchu penodol y gallai fod gennych chi yng nghyd-destun COVID-19. Bydd yr adborth yn cael ei ymgorffori ar dudalen Cwestiynau Cyffredin ar wefan y Comisiwn a fydd yn darparu canllawiau ar ymholiadau penodol sy’n effeithio ar bleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr di-blaid. Bydd y dudalen yn cael ei diweddaru trwy gydol y cyfnod a reoleiddir.
Llenwch yr arolwg byr hwn. Gallwch aros yn ddi-enw, a dylai gymryd llai na 10 munud i’w gwblhau. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw dydd Gwener 15 Ionawr 2021.
NODER:
Mae rhaid cwblhau'r arolwg mewn un sesiwn. Bydd yr atebion yn cael eu colli heblaw eich bod yn cyrraedd y dudalen olaf i'w cyflwyno, ac ni allwch arbed eich cynnydd a dychwelyd yn ddiweddarach.