Page1 / 7
 
14% of survey complete.
Mae'r Comisiwn yn gyfrifol am achredu arsylwyr etholiadol yn y DU ac mae gennym ddiddordeb yn eich adborth ar eich profiad o fod yn arsylwr.

Gellir rhoi adborth ar unrhyw ddigwyddiad etholiadol yn y DU ar y ffurflen hon a gellir ei chwblhau ar unrhyw adeg. 

Rhowch enghreifftiau lle y bo'n bosibl wrth ddarparu adborth.

Nid yw'r Comisiwn Etholiadol yn gallu ymateb yn uniongyrchol i faterion a godir yn y ffurflen hon.

Mae'n bosibl y caiff rhywfaint o adborth ei rannu â'r awdurdodau lleol perthnasol, neu'r Swyddogion Canlyniadau er mwyn helpu i wella'r cynllun Arsylwyr a'r ffordd y caiff y broses etholiadol ei chynnal.

NODER:
Rhaid cwblhau'r arolwg ar-lein mewn un sesiwn. Caiff atebion eu colli oni fyddwch yn cyrraedd y dudalen olaf i'w cyflwyno, ac ni allwch gadw eich gwaith a dychwelyd ato'n ddiweddarach.

Gellir gweld fersiwn Word o'r ffurflen hon drwy ddilyn y ddolen ganlynol.  Mae'n bosibl y byddwch am ddefnyddio'r adnodd hwn i'ch ysgogi i ystyried yr hyn y bydd angen i chi gadw llygad amdano wrth arsylwi.

Os byddai'n well gennych anfon adborth ar ffurf wahanol, anfonwch e-bost i observers@electoralcommission.org.uk

T